Haf 2013 - Paratoi i'r cyflwyniad llafar / darn ysgrifenedig
Dyma'r cyflwyniad yn esbonio gwahanol ffyrdd o baratoi ar gyfer eich cyflwyniad llafar o flaen eich partner. Cofiwch ei fod yn werth paratoi yn ofalus ar gyfer y dasg yma gan eich bod yn defnyddio yr un gwaith ar gyfer y rhan ysgrifenedig o'ch arholiad. Pob hwyl gyda'r dysgu!
Cofiwch mai'r GORFFENNOL yw rhywbeth rydych wedi gwneud, y PRESENNOL yw rhywbeth sy'n farn neu rhywbeth rydych yn ei wneud fel arfer, tra mai'r DYFODOL yw rhywbeth rydych yn mynd i wneud!
Dyma eich ymarfer ynganu, Blwyddyn 8, yn dilyn eich sgyrsiau ar eich gwyliau arferol. Gwrandewch yn ofalus ar y ynganiad cywir, ac edrychwch yn ofalus ar y geiriau wrth i chi eu dweud - fel hyn, mi fyddwch yn medru cofio sut i ynganu'r gair yn gywir ar lafar pan rydych yn ei weld dro nesaf.
Ar wyliau : En vacances Wyt ti? : Est-ce que? Beth wyt ti? : Qu’est-ce que? Beth? : Que? Pwy? : Qui? Fy nheulu : Ma famille Rwy'n gwneud : Je fais Rwy'n mynd : Je vais Wyt ti'n aros? : Restes-tu? Wyt ti'n treulio? : Passes-tu?
ON - Os nad yw'r chwaraewr yn gweithio yn iawn, efallai y bod angen i chi lawrlwytho Quicktime ar eich cyfrifiadur (cofiwch ofyn caniatad perchennog y cyfrifiadur!) - Lawrlwytho Quicktime
La chanson des squelettes (L'heure - Yr amser)
Voici une chanson amusante pour apprendre comment parler de l'heure en français - poumba, poumba, poumbaba! ;)
Quelle heure est-il?
Dyma fideo yn esbonio sut i siarad am yr amser yn Ffrangeg. Mae'n cyflwyno'r amser ar y cloc, wedi ei ysgrifennu yn Ffrangeg, wedi ei ddweud yn Ffrangeg, wedi ei ysgrifennu'n Saesneg ac wedi ei ysgrifennu fel rhifau yn y ffordd Ffrangeg! Edrychwch yn ofalus a sylwch ei fod yn aml yn dangos dau ffordd o roi'r un amser - e.e. yn debyg i Saesneg, ble gallwch ddweud 'four fifteen' neu 'quarter past four' ar gyfer 4.15pm. Edrychwch yn ofalus ar y fideo a ceisiwch ei wylio fwy nag unwaith os oes amser gennych.
Je te présente ma ville - Point-à-Pitre
Faly vous présente sa ville dans cette vidéo. Qu'en pensez-vous?
Voici vos devoirs! Traduisez (Cyfieithwch) les phrases et ajoutez (ychwanegwch) une raison créative à la fin! Ecrivez (Ysgrifennwch) dans vos cahiers.
1. Dwi'n mynd i chwarae pêl-droed achos...
2. Dwi'n hoffi gwrando ar y radio achos...
3. Hoffwn i feicio achos...
4. Mae'n well gen i fynd i'r pwll nofio achos...
5. Dwi'n gallu chwarae'r piano achos...
6. Dwi'n casau mynd i'r clwb ieuenctid achos...
7. Dwi'n dwlu gwylio gemau rygbi achos...
8. Dwi eisiau darllen stribedi cartŵn achos...
9. Dydw i ddim yn hoffi marchogaeth achos...
10. Dwi'n mynd i fynd i'r sinema achos...
Les passe-temps - 8.1
Voici deux liens (dolen) aux vidéos d'Année 8 qui expliquent ce qu'ils aiment et ce qu'ils n'aiment pas faire comme passe-temps :)
Dyma'r ddolen i'r ddrama 'Les Choix' i chi, Flwyddyn 8. Dilynwch yr hanes o un pennod i'r llall - mae pob un yn dechrau gyda cyflwyniad bandedessinée (cartŵn) i osod y sefyllfa, ac yna cewch y bennod ei hun, a gaiff ei ddilyn gan gêmau ac ymarferion bach i ymarfer yr iaith o'r bennod yn bellach! Gallwch droi is-deitlau Ffrangeg a/neu Cymraeg ymlaen ar bob pennod i'ch cynorthwyo os hoffech. Amusez-vous bien et bonnes vacances! :)
Dyma gyflwyniad sy'n cynnig rhai darnau o gyngor i chi, a rhai technegau gwahanol ar gyfer dysgu eich darn ysgrifenedig estynedig ar eich cof. Gan eich bod yn llai cyfarwydd gyda Ffrangeg na gyda Chymraeg a Saesneg, mae angen ychydig mwy o ymroddiad tuag at y dysgu ar gyfer medru cynhyrchu darn dealladwy, diddorol a chywir mewn amgylchiadau arholiad. Gobeithio y bydd y cyflwyniad yma o ddefnydd i chi!
Voici un message de la classe 8.1B pour l'équipe de foot de Dyffryn Teifi qui participe dans cette compétition internationale - allez les gars! On est tous fiers de vous! :) (Dyma neges o ddosbarth 8.1B i dîm pêl-droed Ysgol Dyffryn Teifi sy'n cymryd rhan yn y gystadleuaeth ryngwladol yma - ewch amdani, bois! Rydym i gyd yn falch iawn ohonoch! :) )
Prawf - Adeiladu Brawddegau
Mae dolen isod i fynd â chi at set o ymarferion a fydd yn eich cynorthwyo i ddysgu ystyr a sillafu y berfau 'Adeiladu brawddegau' sydd au hangen ar gyfer y prawf. Yn yr ymarferion, mae gennych gardiau fflach i ddechrau, yna cyfres o weithgareddau i'w hymarfer, amrywiaeth o brofion byr a dau gêm i'w chwarae. Cofiwch bod angen defnyddio BERFENW (berf sy'n gorffen gyda -er, -ir neu -re) ar ôl pob un o'r berfau 'Adeiladu brawddegau', e.e. Je peux JOUER au tennis = Rydw i'n gallu CHWARAE tenis Je dois FAIRE mes devoirs = Rydw i'n gorfod GWNEUD fy ngwaith cartref J'aime DORMIR = Rwy'n hoffi CYSGU
Dyma gân grêt i ymarfer eich brawddegau yn y dyfodol wrth sôn am wyliau! Pawb i ymuno, un, deux, trois, quatre...! ;)
Pypedau pensil - Mes vacances
Dyma ddolen i'ch arwain at eich gwaith ar y blog, Blwyddyn 8. Mae dau set o fideos, gan nad oedd yn bosib rhoi pob fideo ar yr un bwletin blog. Gwaith campus, da iawn!
Dyma ddolen sy'n arwain at dudalen Quizlet gyda rhan fwyaf o'r eirfa rydym wedi dysgu hyd yn hyn ar ble rydym yn byw. Edrychwch yn gyntaf trwy'r cardiau fflach ar dop y dudalen (mae'r rhestr gyfan hefyd ar waelod y dudalen) - gwnewch hyn nes eich bod yn teimlo'n weddol hyderus am y geirfa - gallwch edrych trwyddynt sawl gwaith os oes angen. Yna gallwch wneud y 3 gweithgaredd dysgu oddi tano - mae'r ymarfer 'speller' yn arbennig o ddefnyddiol. Hefyd, mae 2 gêm bach gallwch chwarae i orffen. Gobeithio y byddwch yn ei ffeindio'n ddefnyddiol :-)
Paratowch gyflwyniad ar eich ardal gan ddefnyddio gwefan Fodey. Defnyddiwch y daflen swigod siarad a ddefnyddioch yn y dosbarth i'ch cynorthwyo a cheisiwch gynnwys yr holl fanylion o'r rhestr isod:
eich enw (enw cyntaf a llythyren cyntaf eich cyfenw os oes angen yn unig - NID enw llawn!) a'ch oedran
esbonio ble rydych yn byw (tref a gwlad)
beth sydd yno / ble rydych yn mynd (a gyda phwy / i wneud beth)
beth sydd ddim yno
eich barn am eich tref
Teipiwch yn Word, ac yna safiwch eich gwaith. Ewch ar safle wê Fodey a dewiswch gymeriad - tomato, tylluan, cath, gwiwer neu flodyn! Copiwch a pastiwch eich gwaith o Word i mewn i'r blwch 'Enter your text here'. Cliciwch ar 'Generate'. Yna, cliciwch ar 'Download your Image' (gyda chaniatad perchenog y cyfrifiadur, wrth gwrs!) a safiwch eich gwaith. Yna, ebostiwch y gwaith i'ch athrawes gan ddefnyddio cyfeiriad ebost yr adran (adran-ffrangeg@dyffrynteifi.org) gan gofio ychwanegu'r ffeil i'r ebost (defnyddiwch 'attach file').
Beth os gewch chi drafferth yn cyflawni y gwaith yma?
Os gewch chi drafferth gyda'r cynnwys (h.y. beth sydd angen i chi ddweud yn Ffrangeg), ewch i weld eich athrawes Ffrangeg mewn digonedd o amser.
Os ydych yn cael trafferth yn ebostio'r gwaith, gallwch eich safio ar gof-bin a dod â hwnnw i mewn i'ch athrawes yn lle.
Os ydych yn cael trafferth yn lawrlwytho eich ffeil, gallwch gopio'r 'embed/HTML code' yn lle ac ebostio hwnnw.
Cofiwch ddefnyddio hwn fel cyfle i ddangos i'ch athrawes y gorau gallwch wneud yn Ffrangeg! Mi fydd yr esiamplau gorau yn cael eu mewnosod ar y wiki yma i bawb gael eu gweld!
Dyma fersiwn Madame James os ydych am syniadau/esiampl:
Create your own Animation
Le Monde par Yakko!
Dyma fideo bach doniol sy'n rhoi enwau holl wledydd y byd yn Ffrangeg :) Mae'n canu yn gyflym iawn ond gwyliwch cwpwl o weithiau i weld sawl gwlad fedrwch chi bigo mas!
Croeso i Flwyddyn 8!
Haf 2013 - Paratoi i'r cyflwyniad llafar / darn ysgrifenedig
Dyma'r cyflwyniad yn esbonio gwahanol ffyrdd o baratoi ar gyfer eich cyflwyniad llafar o flaen eich partner. Cofiwch ei fod yn werth paratoi yn ofalus ar gyfer y dasg yma gan eich bod yn defnyddio yr un gwaith ar gyfer y rhan ysgrifenedig o'ch arholiad. Pob hwyl gyda'r dysgu!Adolygu - Llefydd yn y dref gyda au / à la / à l' / aux
Dyma'r rheol:zondle - games to support learning
Adolygu - Gwledydd gyda en / au / aux
Dyma'r rheol:zondle - games to support learning
Adolygu - Gorffennol - Presennol - Dyfodol
Cofiwch mai'r GORFFENNOL yw rhywbeth rydych wedi gwneud, y PRESENNOL yw rhywbeth sy'n farn neu rhywbeth rydych yn ei wneud fel arfer, tra mai'r DYFODOL yw rhywbeth rydych yn mynd i wneud!zondle - games to support learning
Asesu-cyfoed - 8.3
Dyma'r ddolen i chi wneud eich asesu-cyfoed, 8.3 => Asesu-cyfoed - deialogau 8.3Asesu-cyfoed - 8.1
Dyma'r ddolen i chi wneud eich asesu-cyfoed, 8.1 => Asesu-cyfoed - deialogau 8.1En vacances - Exercice de prononciation :)
Dyma eich ymarfer ynganu, Blwyddyn 8, yn dilyn eich sgyrsiau ar eich gwyliau arferol. Gwrandewch yn ofalus ar y ynganiad cywir, ac edrychwch yn ofalus ar y geiriau wrth i chi eu dweud - fel hyn, mi fyddwch yn medru cofio sut i ynganu'r gair yn gywir ar lafar pan rydych yn ei weld dro nesaf.Ar wyliau : En vacances
Wyt ti? : Est-ce que?
Beth wyt ti? : Qu’est-ce que?
Beth? : Que?
Pwy? : Qui?
Fy nheulu : Ma famille
Rwy'n gwneud : Je fais
Rwy'n mynd : Je vais
Wyt ti'n aros? : Restes-tu?
Wyt ti'n treulio? : Passes-tu?
ON - Os nad yw'r chwaraewr yn gweithio yn iawn, efallai y bod angen i chi lawrlwytho Quicktime ar eich cyfrifiadur (cofiwch ofyn caniatad perchennog y cyfrifiadur!) - Lawrlwytho Quicktime
La chanson des squelettes (L'heure - Yr amser)
Voici une chanson amusante pour apprendre comment parler de l'heure en français - poumba, poumba, poumbaba! ;)Quelle heure est-il?
Dyma fideo yn esbonio sut i siarad am yr amser yn Ffrangeg. Mae'n cyflwyno'r amser ar y cloc, wedi ei ysgrifennu yn Ffrangeg, wedi ei ddweud yn Ffrangeg, wedi ei ysgrifennu'n Saesneg ac wedi ei ysgrifennu fel rhifau yn y ffordd Ffrangeg! Edrychwch yn ofalus a sylwch ei fod yn aml yn dangos dau ffordd o roi'r un amser - e.e. yn debyg i Saesneg, ble gallwch ddweud 'four fifteen' neu 'quarter past four' ar gyfer 4.15pm. Edrychwch yn ofalus ar y fideo a ceisiwch ei wylio fwy nag unwaith os oes amser gennych.Je te présente ma ville - Point-à-Pitre
Faly vous présente sa ville dans cette vidéo. Qu'en pensez-vous?Je te présente ma ville
Les passe-temps - 8.3
Voici les vidéos d'Année 8 où ils parlent de leurs passe-temps en utilisant une variéte de verbes et de raisons. :)Les passe-temps 8-3
Devoirs - 8.1 (pour le 24 septembre)
Voici vos devoirs! Traduisez (Cyfieithwch) les phrases et ajoutez (ychwanegwch) une raison créative à la fin! Ecrivez (Ysgrifennwch) dans vos cahiers.1. Dwi'n mynd i chwarae pêl-droed achos...
2. Dwi'n hoffi gwrando ar y radio achos...
3. Hoffwn i feicio achos...
4. Mae'n well gen i fynd i'r pwll nofio achos...
5. Dwi'n gallu chwarae'r piano achos...
6. Dwi'n casau mynd i'r clwb ieuenctid achos...
7. Dwi'n dwlu gwylio gemau rygbi achos...
8. Dwi eisiau darllen stribedi cartŵn achos...
9. Dydw i ddim yn hoffi marchogaeth achos...
10. Dwi'n mynd i fynd i'r sinema achos...
Les passe-temps - 8.1
Voici deux liens (dolen) aux vidéos d'Année 8 qui expliquent ce qu'ils aiment et ce qu'ils n'aiment pas faire comme passe-temps :)
Les passe-temps 1
Les passe-temps 2
Les Choix - Drama Ffrangeg ar-lein
Dyma'r ddolen i'r ddrama 'Les Choix' i chi, Flwyddyn 8. Dilynwch yr hanes o un pennod i'r llall - mae pob un yn dechrau gyda cyflwyniad bande dessinée (cartŵn) i osod y sefyllfa, ac yna cewch y bennod ei hun, a gaiff ei ddilyn gan gêmau ac ymarferion bach i ymarfer yr iaith o'r bennod yn bellach! Gallwch droi is-deitlau Ffrangeg a/neu Cymraeg ymlaen ar bob pennod i'ch cynorthwyo os hoffech. Amusez-vous bien et bonnes vacances! :)
Les Choix - Bienvenue à Marseille!
Adolygu Haf 2012 - Dysgu ar y cof
Dyma gyflwyniad sy'n cynnig rhai darnau o gyngor i chi, a rhai technegau gwahanol ar gyfer dysgu eich darn ysgrifenedig estynedig ar eich cof. Gan eich bod yn llai cyfarwydd gyda Ffrangeg na gyda Chymraeg a Saesneg, mae angen ychydig mwy o ymroddiad tuag at y dysgu ar gyfer medru cynhyrchu darn dealladwy, diddorol a chywir mewn amgylchiadau arholiad. Gobeithio y bydd y cyflwyniad yma o ddefnydd i chi!Dyffryn Teifi au Mondial Pupilles 2012
Voici un message de la classe 8.1B pour l'équipe de foot de Dyffryn Teifi qui participe dans cette compétition internationale - allez les gars! On est tous fiers de vous! :)(Dyma neges o ddosbarth 8.1B i dîm pêl-droed Ysgol Dyffryn Teifi sy'n cymryd rhan yn y gystadleuaeth ryngwladol yma - ewch amdani, bois! Rydym i gyd yn falch iawn ohonoch! :) )
Prawf - Adeiladu Brawddegau
Mae dolen isod i fynd â chi at set o ymarferion a fydd yn eich cynorthwyo i ddysgu ystyr a sillafu y berfau 'Adeiladu brawddegau' sydd au hangen ar gyfer y prawf. Yn yr ymarferion, mae gennych gardiau fflach i ddechrau, yna cyfres o weithgareddau i'w hymarfer, amrywiaeth o brofion byr a dau gêm i'w chwarae. Cofiwch bod angen defnyddio BERFENW (berf sy'n gorffen gyda -er, -ir neu -re) ar ôl pob un o'r berfau 'Adeiladu brawddegau', e.e.Je peux JOUER au tennis = Rydw i'n gallu CHWARAE tenis
Je dois FAIRE mes devoirs = Rydw i'n gorfod GWNEUD fy ngwaith cartref
J'aime DORMIR = Rwy'n hoffi CYSGU
Quizlet: Adeiladu brawddegau
On chante! Mes vacances
Dyma gân grêt i ymarfer eich brawddegau yn y dyfodol wrth sôn am wyliau! Pawb i ymuno, un, deux, trois, quatre...! ;)Pypedau pensil - Mes vacances
Dyma ddolen i'ch arwain at eich gwaith ar y blog, Blwyddyn 8. Mae dau set o fideos, gan nad oedd yn bosib rhoi pob fideo ar yr un bwletin blog. Gwaith campus, da iawn!Deialogau: Grwp A
Deialogau: Grwp B
Quizlet - J'habite
Dyma ddolen sy'n arwain at dudalen Quizlet gyda rhan fwyaf o'r eirfa rydym wedi dysgu hyd yn hyn ar ble rydym yn byw. Edrychwch yn gyntaf trwy'r cardiau fflach ar dop y dudalen (mae'r rhestr gyfan hefyd ar waelod y dudalen) - gwnewch hyn nes eich bod yn teimlo'n weddol hyderus am y geirfa - gallwch edrych trwyddynt sawl gwaith os oes angen. Yna gallwch wneud y 3 gweithgaredd dysgu oddi tano - mae'r ymarfer 'speller' yn arbennig o ddefnyddiol. Hefyd, mae 2 gêm bach gallwch chwarae i orffen. Gobeithio y byddwch yn ei ffeindio'n ddefnyddiol :-)Quizlet: J'habite
Devoirs 8.1B - Ma ville/Mon village
Paratowch gyflwyniad ar eich ardal gan ddefnyddio gwefan Fodey. Defnyddiwch y daflen swigod siarad a ddefnyddioch yn y dosbarth i'ch cynorthwyo a cheisiwch gynnwys yr holl fanylion o'r rhestr isod:Teipiwch yn Word, ac yna safiwch eich gwaith. Ewch ar safle wê Fodey a dewiswch gymeriad - tomato, tylluan, cath, gwiwer neu flodyn! Copiwch a pastiwch eich gwaith o Word i mewn i'r blwch 'Enter your text here'. Cliciwch ar 'Generate'. Yna, cliciwch ar 'Download your Image' (gyda chaniatad perchenog y cyfrifiadur, wrth gwrs!) a safiwch eich gwaith. Yna, ebostiwch y gwaith i'ch athrawes gan ddefnyddio cyfeiriad ebost yr adran (adran-ffrangeg@dyffrynteifi.org) gan gofio ychwanegu'r ffeil i'r ebost (defnyddiwch 'attach file').
Beth os gewch chi drafferth yn cyflawni y gwaith yma?
Cofiwch ddefnyddio hwn fel cyfle i ddangos i'ch athrawes y gorau gallwch wneud yn Ffrangeg! Mi fydd yr esiamplau gorau yn cael eu mewnosod ar y wiki yma i bawb gael eu gweld!
www.fodey.com
Dyma fersiwn Madame James os ydych am syniadau/esiampl:
Le Monde par Yakko!
Dyma fideo bach doniol sy'n rhoi enwau holl wledydd y byd yn Ffrangeg :) Mae'n canu yn gyflym iawn ond gwyliwch cwpwl o weithiau i weld sawl gwlad fedrwch chi bigo mas!